![]() Ymysg ei gomisiynau diweddar mae Sion a Sian (SATB), I Am The Song (TTBB), Nerth y Gân, Diamonds That Shine In The Night (SSA), a Llwybrau (Soddgrwth & piano). Rhyddhawyd tri chasgliad o'i ganeuon gan Sain - Caneuon Robat Arwyn, Llefarodd yr Haul (gyda Rhys Meirion) a Ffydd Gobaith Cariad. Mae dros 150 o’i ganeuon wedi’u recordio, gan gynnwys Yfory, Pedair Oed, Benedictus ac Anfonaf Angel. Comisiynwyd y gweithiau corawl Atgof o’r Sêr ac Er Hwylio’r Haul gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer Syr Bryn Terfel. Mae wedi cyfansoddi deg cyfrol o ganeuon, nifer o ddarnau corawl unigol, a naw sioe gerdd. ![]() Mae'n aelod o Gôr Rhuthun ers 1981 ac yn Gyfarwyddwr Cerdd ers 2007. ![]() Yn enedigol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, graddiodd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd yn 1980 ac ennill Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth o Aberystwyth yn 1981. ![]()
0 Comments
Leave a Reply. |
AuthorWrite something about yourself. No need to be fancy, just an overview. Archives
January 2023
Categories |